Podcasts by Category

Beti a'i Phobol

Beti a'i Phobol

BBC Radio Cymru

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

843 - Nia Bennett
0:00 / 0:00
1x
  • 843 - Nia Bennett

    Beti George sy'n sgwrsio gyda Nia Bennett, Cadeirydd Mudiad yr Urdd.

    Fe gafodd ei hudo i fyd adnoddau dynol HR pan oedd hi'n astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl cyfnod yn gweithio ym Mrwsel i Eluned Morgan, bu'n gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ac yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Cymdeithas Tai Taf, gan weithio gyda'r gymuned Somali.

    Mae hi'n frwd dros helpu cwmnïau i lwyddo, a bu'n rhan o ail strwythuro llywodraethant yr Urdd. Mae hi wedi wynebu sawl her ac fe gawn glywed yr hanesion hynny.

    Sun, 26 May 2024
  • 842 - Dan McCallum

    Dan McCallum Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe yw Gwestai Beti George.

    Cafodd ei fagu yn Plymouth yn Lloegr. Roedd ei Dad, Daniel yn dod o Glasgow a’i fam Mari yn dod o'r Betws yn Rhydaman.

    Mae wedi cymhwyso fel syrfëwr effeithlonrwydd ynni ac mae ganddo radd mewn Hanes Modern o Brifysgol Rhydychen. Ar ôl graddio bu’n gweithio gyda ffoaduriaid yn Sudan ac yn gweithio gyda’r Kwrdiaid yn Iraq ac yn fanno y cafodd flas ar weithio i wella cymunedau.

    Mae Dan yn siarad Cymraeg a Ffrangeg yn rhugl, a rhywfaint o Arabeg. Cawn hanesion ei fywyd a’r straeon am sefydlu’r elusen yn Dyffryn Aman.

    Sun, 19 May 2024
  • 841 - Caitlin Kelly

    Caitlin Kelly yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd Caitlin ei geni a’i magu yn Llundain. Mae ei Mhâm, Elen yn dod o Gaerdydd ac mae ei Thad, David yn dod o Iwerddon. “Roedd y ddau ddiwylliant yna yn fy mywyd i o’r dechrau,”meddai.

    Mae Caitlin yn cofio ei bod hi a’i chwaer yn mynychu Ysgol Gymraeg Cymru Llundain pob dydd Gwener tra yn yr ysgol gynradd. Yn ystod weddill yr wythnos, roedd hi yn mynd i ysgol Gatholig merched yn unig.

    Fe aeth Caitlin ymlaen i astudio Diwinyddiaeth yn Rhydychen gyda’r ffocws ar Islam a seicoleg crefydd yng Ngholeg Worcester. Yna mi wnaeth gais i astudio newyddiaduriaeth yn Llundain a chael lle yn City University yn astudio newyddiaduriaeth teledu.

    Mae bellach yn gweithio fel newyddiadurwraig ac wedi bod yn gweithio gyda’r Groes Goch yn gwneud fideos a phecynnau ar gyfer y wasg. Fe dreuliodd amser yn Gaza a Wcráin.

    Sun, 12 May 2024
  • 840 - Dafydd Rhys

    Dafydd Rhys Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru yw gwestai Beti George. Mae'n trafod heriau ariannol y mae'r sector yn eu hwynebu a'r cyfrifoldeb sydd arno a'r anrhydedd o gael gwneud y swydd.

    Cafodd Dafydd ei eni yn Brynaman ac roedd ei Dad yn Weinidog a’i Fam yn ddiwylliedig ac yn gerddorol yn chwarae’r delyn a’r piano. Oherwydd swydd ei Dad roedd Dafydd a’r teulu yn symud yn aml. Mae Dafydd wedi byw ddwywaith yn ardal Llanelli yn ystod ei fywyd ac felly mae’r ardal yma yn agos iawn at ei galon.

    Yna fe ddaeth cyfnod y 70’au, ’76 a ’77 ȃ cherddoriaeth Pync. Fe newidiodd y gerddoriaeth yma fywyd Dafydd yn llwyr. "Mi ddechreuais i fand o’r enw'r‘ Llygod Ffyrnig’ ac mae Beti'n chwarae sengl o’r enw NCB – National Coal Board a Dafydd oedd y prif ganwr.

    Dechreuodd Dafydd gwmni teledu annibynnol gyda Geraint Jarman. Cwmni Criw Byw a nhw oedd yn gyfrifol am Fideo Naw.

    Bu'n gweithio gyda S4C am gyfnodau ac mae'n trafod pwysigrwydd y sefydliad.

    Sun, 05 May 2024
  • 839 - Shelley Rees

    Shelley Rees yr actores, cyn-wleidydd a chyflwynydd Radio Cymru yw gwestai Beti George.

    Yn wyneb cyfarwydd ar y sgrîn deledu am flynyddoedd wrth iddi bortreadu cymeriad Stacey yn yr opera sebon Pobol y Cwm, ar ôl gadael y gyfres yn 2012 bu’n Gynghorydd yn y Rhondda am 10 mlynedd, tan i ddigwyddiad lle y cafodd y ffin ei groesi ac fe gafodd ei bygwth a gadael y swydd yn fuan wedi hynny.

    Mae hi’n angerddol am actio ar Gymraeg ac yn ymfalchïo yn ei bro enedigol Ton Pentre yn Cwm Rhondda.

    Sun, 28 Apr 2024
Show More Episodes